what we do
what we do
Platform 51 Llanelli
Mae Platform 51 Llanelli yng nghalon y dref, lleoliad hygyrch ar gyfer merched a menywod ledled y sir.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda merched a menywod o gefndir sipsi a theithwyr. Mae ein sesiynau wedi’u dylanwadu a’u cynllunio yn unol gyda’u hanghenion, yn canolbwyntio ar gyfranogaeth, hunan ymwybyddiaeth a dysgu anffurfiol. Drwy gyfranogi maent yn codi hyder ac adfer hunan barch.
Rydym yn cynnal dau o grwpiau, yn cynnig:
• Sesiynau grŵp, lle mae merched a menywod yn dysgu mwy am hunan ddelwedd cadarnhaol, bwlio, trais yn y cartref, bwyta’n iach, diet ac ymarfer corff, rhyw diogel ac iechyd rhywiol, ac alcohol a chyffuriau
• Rhaglenni addysg achrededig
• Cyfleoedd gwirfoddoli
• Celf a chrefft
• Cyngor a gwybodaeth am addysg, sgiliau, hyfforddiant a swyddi
• Sesiynau unigol gyda gweithwyr prosiect lle gall menywod siarad am eu hanghenion yn gyfrinachol
