what we do
what we do
Platform 51 Cwmafan
Mae Platform 51 Cwmafan mewn ardal cymharol wledig ar gyrion Castell Nedd Port Talbot ac, oddi yno, rydym yn cynnal gwasanaethau allgymorth ledled y sir. Ni yw’r unig wasanaeth yn yr ardal sy’n gwneud hyn.
Mae ein gwasanaethau wedi’u llunio, dylanwadu a’u cynllunio yn unol ag anghenion merched a menywod yr ardal. Rydym yn canolbwyntio ar gyfranogaeth ac addysg, ac o ganlyniad, mae nifer o ferched yn symud ymlaen i fod yn wirfoddolwyr a chyfranogi mewn ymgyrchoedd yn eu cymunedau.
Yn ein sesiynau grŵp, mae menywod yn dysgu sut i oresgyn bwlio a thrais yn y cartref, ac ynglŷn â bwyta’n iach, diet ac ymarfer corff, iechyd rhywiol, alcohol a chyffuriau. Mewn sesiynau uniongyrchol gyda gweithwyr prosiect gall menywod siarad am unrhyw beth sy’n eu poeni, mewn cyfrinachedd llwyr.
Mae nifer o ferched yn gweld y cyfnod o newid rhwng ysgol gynradd ac uwchradd, coleg, hyfforddiant neu’r byd mawr yn anodd iawn; a heb gefnogaeth mae perygl iddynt roi’r gorau iddi. Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth ar addysg, sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth, yn ogystal â chynnal rhaglenni addysgiadol achrededig. Rydym yn cefnogi merched a menywod i benderfynu beth i’w wneud nesaf.
Mae’r mwyafrif o ferched a menywod yr ydym wedi cyfarfod â hwy wedi colli hyder. Gall rhoi tro ar bethau newydd, ymuno i mewn a dod o hyd i ffrindiau newydd oll adeiladu hyder. Rydym yn annog merched a menywod i gyfranogi mewn prosiectau cymunedol, gweithdai dawns, celf a chrefft, a gweithgareddau preswyl neu awyr agored gyda’u cymheiriaid.

Cysylltwch Platfform 51 cwmafan
23 Depot Road
Cwmafan
Port Talbot
De Cymru
SA12 9BA
rhif ffôn: 01639 894184
cyfeiriad ebost: cwmafan@platform51.org
credwn

...y dylai pob person ifanc dderbyn cyngor ac arweiniad gyrfaoedd heb ystrydebau rhywiol
support us
Give £20 and we can offer counselling to a young woman and help her find a way through her problems.
Platform 51 e-newsletter

Sign up for our enewsletter to receive regular updates about our work
