what we do
what we do
Platform 51 Cardiff
Dan nawdd The Co-operative Foundation, rydym yn gweithio gyda phobl ifanc mewn chwe ardal yng Nghaerdydd i herio rhagdybiaethau negyddol am bobl ifanc ac i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hwynebu
Mae gan nifer o bobl Prydain syniadau negyddol iawn am bobl ifanc heddiw.
Yng Nghaerdydd, dengys arolygon lleol fod nifer o bobl yn credu fod ieuenctid heddiw allan o reolaeth, yn amharchus, yn cyfranogi mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn beryglus i’r gymdeithas. Ar ochr arall y geiniog, dywed plant a phobl ifanc nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu parchu na’u gwerthfawrogi yn eu cymunedau. Mae’r farn hon yn cael ei hadrodd yn rheolaidd yn y cyfryngau lleol ac mewn ymgynghoriadau cymunedol.
Mae Platform 51 yng Nghaerdydd yn cynnal prosiect o’r enw Truth About Youth. Mewn chwe ardal yng Nghaerdydd rydym yn gweithio gyda thimau o fechgyn a merched 14 oed a throsodd. Dan arweiniad gweithiwr ieuenctid, bydd y timau yn cynnal ymchwil cymunedol i ddod o hyd i’r materion pwysicaf i’w taclo, a chlustnodi hyfforddiant angenrheidiol a phartneriaid i weithio gyda hwy.
Ar ôl clustnodi’r pynciau pwysicaf, bydd y timau yn llunio sialens; prosiect cymunedol cydweithredol gyda’r nod o oresgyn mater penodol, gan arwain at newid cadarnhaol a gwell dealltwriaeth.
Ymysg y syniadau posibl ar gyfersialensiau: digwyddiad cymunedol; prosiectamgylcheddol, ymgyrchu dros wasanaethau, gwaith i uno’r cenedlaethau, gwirfoddoli neu gynhyrchu ffilm. Gyda chefnogaeth gweithiwr ieuenctid, bydd pobtîm yn gyfrifol am gynllunio sialens, dod o hyd i’r hyfforddiant, nawdd ac adnoddau sy’n angenrheidiol, a nodi gyda phwy y gellid cydweithio. Bydd y grŵp yn gweithio gyda’r cyfryngau, trefnu cyhoeddusrwydd, cynnal ymweliadau neu gyfarfodyddgwleidyddion, ac yn cynnwys aelodau’r gymuned.
