Home
what we do
Charlotte
Mae dod i’r Platform 51 wedi fy helpu i ddod o hyd i fy llais, mewn gwirionedd, ac wedi rhoi pob math o gyfleoedd i mi na fyddwn wedi’u cael fel arall.
Rhai blynyddoedd yn ôl, roeddwn yn cael amser caled iawn gyda’m tad yn bennaf. Doedd mam a dad ddim yn siarad gyda’i gilydd, ac roeddent yn fy nefnyddio fel negesydd. Roeddwn yn cael fy nal yn y canol, ac yn methu dygymod. Roeddwn yn ymosodol tuag at bawb. Roeddwn yn bwrw, gweiddi, cnoi a thaflu pethau. Roeddwn yn gwneud unrhyw beth i ddianc oddi wrth bawb ac amddiffyn fy hun.
Un diwrnod, gyda fy nheulu yn Ffair Castell Nedd, cefais bwl o banig. Gwylltiais. Fedra i ddim egluro pam. Fe daniodd rhywbeth yn fy mhen. Rhedais a rhedais, gan gyrraedd hanner ffordd i fyny’r mynydd gyda’r heddlu a’m teulu yn dilyn. Roedd yn rhaid iddynt fy nhaflu i’r llawr gan fy mod yn ymosod arnynt. Yna daethant a mi adref mewn cyffion yng nghefn fan heddlu. Roeddwn yn llawn cleisiau. Roeddwn wedi bod yn dreisgar iawn, yn cicio a bwrw. Dydw i ddim yn cofio beth oedd yn mynd drwy mhen, ond rwy’n gwybod fy mod eisiau dad.
Rwyf wedi dod drwyddi. Rwy’n teimlo’n dawelach a dan fwy o reolaeth. Rwyf wedi gwneud fy arholiadau TGAU a Bagloriaeth Cymru, ac os fyddaf yn cael canlyniadau da, rwyf am fynd i’r coleg i astudio Diploma Genedlaethol mewn Hamdden a Thwristiaeth. Rwyf am deithio a mynd i lefydd, a chael gadael.
Y mwyaf y cyfranogais gyda’r Platform 51, y mwyaf y tyfais, a darganfod fy hyder. Mae wedi cymryd amser, ond bellach rwy’n falch iawn o’m hun a’m llwyddiant.
Hoffwn ddweud wrth bobl fod yr Platform 51 yn newid bywydau pobl ac yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’n le diogel i fynd ac rydym yn dysgu cymaint am ein hunain, sut i ddygymod a’r ffordd mae’r byd yn gweithio. Mae gen i gyfnither tair oed ac fe hoffwn feddwl, pan fydd hi’n hŷn, os fydd angen help arni, y bydd yr Platform 51 ar gael iddi hi hefyd.
cefnogwch ni

"Cefnogwch yr Platform 51, hoffwn i ddim meddwl lle y byddwn i hebddynt"
Rochelle 18
dyfyniad
"Cyn i mi ddod i'r Platform 51 roeddwn yn cael fy mwlio a phrin yn siarad gydag unrhyw un. Mae'r Platfform 51 wedi rhoi hyder i mi wynebu sialensiau."Lorna, 15
ffaith

Cododd y nifer o oedolion dros 16 a dderbyniwyd i ysbytai'r GIC â diagnosis sylfaenol neu eilaidd cysylltiedig gydag alcohol o 89,280 yn 1995/6 i 187,640 yn 2005/6
