Platform 51

Platform 51 supports girls and women as they take control of their own lives .
Platfform 51 ywr gweithio gydar menywod ifanc. THIS WEBSITE IS CURRENTLY BEING BUILT

 

Our Voice Welsh / Cymraeg
Support us!
Platform 51 supports girls and women as they take control of their lives.

ynglŷn â ni

Ddoe a heddiw
Yn 1855 sefydlwyd ni dan yr enw The Young Women’s Christian Association of Great Britain. Yn 2002 newidiwyd ein henw i YWCA Cymru a Lloegr. Yn 2010 daethom i fod yn Platform 51 gan nad oedd ystyr bellach i YWCA, a bod pobl yn aml yn drysu rhyngom ni ac elusen arall. Mae ein henw newydd yn gynrychiolaeth gywirach ohonom ni a’n gwaith.

Gyda phwy ydych chi’n gweithio?
Rydym yn gweithio gyda merched a menywod sydd ein hangen, beth bynnag eu hoed a’u cefndir, yng Nghymru a Lloegr.

Pa fath o broblemau sy’n cael eu hwynebu?
Mae menywod yng nghymdeithas heddiw yn wynebu pwysau eithafol: mae nifer yn cael eu cam-drin neu’n ynysig, eraill yn straffaglu gyda thlodi, camwahaniaethu, rhywiaeth, trais rhywiol neu hiliaeth. Mae nifer yn straffaglu i gael yr addysg sydd ei angen arnynt. I ddygymod, mae rhai menywod yn troi at gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol, hunan niweidio neu’n dioddef o anhwylderau bwyta. Mae’r mwyafrif o fenywod yr ydym yn gweithio gyda hwy yn ddihyder. Daw rhai atom mewn argyfwng, tra bod eraill ond angen cael eu trin fel bod dynol.

Share

credwn

credwn

...bod gwaith sy'n draddodiadol yn cael ei weld fel 'gwaith menywod' yr un gwerth â mathau eraill o waith, a dylid eu talu yn unol â hynny

dyfyniad

"Mae'n wych dod i'r Platform 51 gan fy mod wedi gallu codi llais a bod yn gyfartal. Rwyf wedi cael fy annog i siarad gyda phobl mewn awdurdod."
Kayley, 23

ffaith

ffaith

Mae camdriniaeth ariannol - megis gorfodi menywod i drosglwyddo eu cyflogau - yn ffurf o drais yn y cartref; mae ymchwil yn awgrymu ei fod yn digwydd yn eang

ffaith

ffaith

Mae'r mwyafrif o'r swyddi cyflog isaf yn y DU yn llawn menywod

credwn

credwn

...bod angen llefydd diogel a diddorol i ferched eu mynychu, a phethau diddorol i'w gwneud, yn arbennig fin nos ac ar benwythnosau