Platform 51

Platform 51 supports girls and women as they take control of their own lives .
Platfform 51 ywr gweithio gydar menywod ifanc. THIS WEBSITE IS CURRENTLY BEING BUILT

 

Our Voice Welsh / Cymraeg
Support us!
Platform 51 supports girls and women as they take control of their lives.

cwestiynau cyffredin

Isod ceir atebion i rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi’n aml.

Beth ydych chi’n ei wneud felly?

Rydym yn gwneud dau beth. Yn gyntaf, rydym yn gweithio wyneb yn wyneb gyda menywod. Gan fod problemau pob person yn wahanol, mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yn wahanol ym mhob achos. Drwy gyfranogi mewn cyrsiau, gweithgareddau grŵp a chynghori, rydym yn cynorthwyo pob menyw i ddeall yr hyn sy’n digwydd yn ei bywyd. Fel arfer mae hyn yn ysgogi menywod i gymryd y cam cyntaf, efallai drwy gael y dewrder i ddweud ‘na’, dysgu siarad Saesneg, gwneud cais i fynd i’r coleg, neu gael mwy o hyder fel rhiant.

Yn ail, rydym yn siarad ar ran pob menyw yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn herio anghydraddoldeb, camwahaniaethu ac ystrydebau negyddol o fenywod drwy ddylanwadu ar awdurdodau a lobïo dros newidiadau yn y gyfraith.

Ai YWCA oedd eich enw?

Ie. Newidiwyd ein henw i Platform 51 yn 2010 gan ei fod yn adlewyrchiad mwy cywir ohonom ni a’n gwaith.

Mae Platform 51 yn aelod o World YWCA, rhwydwaith fyd-eang o fenywod a merched yn gweithio dros gyfiawnder, heddwch, iechyd, urddas a rhyddid.

Pam oedd angen newid yr enw?

Dros y blynyddoedd rydym wedi esblygu i adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas, ac anghenion a disgwyliadau menywod. Nid oedd ystyr bellach i’n enw gwreiddiol. Felly ar ôl 155 o flynyddoedd, penderfynom ei newid.

Pam Platform 51?

Mae 51% o bobl yn fenywaidd. Mae merched a menywod yn ein defnyddio fel platfform i ddweud eu dweud a’u cynorthwyo ar adegau heriol yn eu bywydau.

A ydych yn Gristnogol o hyd?

Na. Sefydlwyd y mudiad gan fenywod Cristnogol yn 1855, ond nid yw ein gwaith bellach ar sail ffydd. Rydym yn gweithio gyda menywod o unrhyw ffydd neu ddim ffydd o gwbl.

A oes gennych hostelau o hyd?

Na. Gwerthwyd hwy i fudiadau tai cymdeithasol dros ddegawd yn ôl. Mae anghenion menywod wedi newid dros y blynyddoedd felly rydym wedi newid ein gwaith yn unol â hynny.

Sut ydych yn cael eich ariannu?

Daw’r mwyafswm o’n hincwm drwy grantiau, taliadau llywodraeth ac incwm buddsoddiadau. Ond nid yw’n ddigon ac mae dirfawr angen mwy o arian i barhau gyda’n gwaith gyda’r holl fenywod sydd ein hangen.

Pam ydych yn cadw gymaint wrth gefn?

Rydym yn cadw digon wrth gefn i dalu am rhwng dau a phedwar mis o wariant (£3 miliwn ym mis Mawrth 2010), lefel debyg i’r mwyafswm o elusennau. Mae angen hyn fel bod modd i ni gynnal gwasanaethau cyson, gan fod ein hincwm yn anwadal. Mae cyfanswm ein cyllid yn fwy gan fod gennym hefyd waddolion, ond nid oes modd eu gwario. Maent yn cael eu buddsoddi er mwyn darparu incwm nawr ac yn y dyfodol.

Share

credwn

credwn

...bod gwaith sy'n draddodiadol yn cael ei weld fel 'gwaith menywod' yr un gwerth â mathau eraill o waith, a dylid eu talu yn unol â hynny